Gall cymorth TG deimlo yn foethusrwydd. Nes i chi geisio cadw rhywbeth ac ay caramba! Mae eich cyfrifiadur yn crashio!
Mae'n chwerthin am eich pen wrth iddo rewi a bygwth na fyddwch yn llwyddo i gyrraedd y dyddiad cyflwyno. Mae'n lledwenu arnoch wrth i chi wasgu Control-Alt-Delete. Mae'r peiriant ar streic ac rydych chi mewn picl. Efallai nad yw cymorth TG yn gymaint o foethusrwydd wedi'r cyfan?
Fel marwolaeth a threthi mae argyfyngau cyfrifiadurol yn rhan o fywyd cyfoes felly bydd ein pecynnau cymorth TG yn addas at unrhyw gyllideb neu fusnes. O swyddfa gartref i floc swyddfeydd bydd ein gwasanaethau gan dechnegwyr sydd wedi'u hardystio gan Microsoft yn sicrhau eich bod yn cadw i weithio.
Y tro nesaf i'ch cyfrifiadur farw byddwn yn ei adfywio. Byddwn yn rheoli pob problem yn arbenigol ac effeithiol.








